Y PwHySllCg(6o)r-1Ie2c-2h3ydPTaN 14

Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

Senedd Cymru

Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN

SeneddIechyd@senedd.cymru senedd.cymru/SeneddIechyd

0300 200 6565

Welsh Parliament

Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN

SeneddHealth@senedd.wales senedd.wales/SeneddHealth

0300 200 6565

 

Julie Morgan AS

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru

 

16 Rhagfyr 2022

 

Annwyl Julie,

 

Yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sesiwn sganio’r

gorwel gyda Phrif Arolygydd a Dirprwy Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i drafod y prif

faterion sy’n effeithio ar ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mae trawsgrifiad o'r cyfarfod ar gael ar ein gwefan ond roedd yna negeseuon clir ac amlwg iawn

ynghylch pa mor fregus yw’r sector gofal cymdeithasol yr oedd y Pwyllgor am dynnu eich sylw atynt.

 

Galw cynyddol am wasanaethau

 

Dywedodd y Prif Arolygydd wrthym y bu cynnydd digynsail yn y galw am ofal cymdeithasol:

 

“…what we are faced with at the moment is a recruitment and, as seriously, a retention crisis for social workers and for social care workers, which is leading to significant fragility for services, and particularly in homecare and domiciliary support.”

Pan wnaethom gymryd tystiolaeth yn gynharach eleni ar gyfer ein hymchwiliad i ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai, dywedwyd wrthym fod y sefyllfa o ran gofal cymdeithasol wedi bod dan bwysau ers blynyddoedd lawer, a bod y pandemig wedi gwaethygu'r hyn a oedd eisoes yn sefyllfa heriol iawn. Ar 30 Tachwedd, disgrifiodd y Prif Arolygydd argyfwng recriwtio a chadw o ran gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol, sy’n arwain at fregusrwydd sylweddol i wasanaethau gofal, yn enwedig ym maes gofal cartref a chymorth cartref. Dywedodd y

Prif Arolygydd wrthym:

 

“…what we see is essentially a health and care system that is gridlocked. Many social care leaders are describing it in terms of crisis, and we don't use that word

lightly.”

 

 

 

 

 

Y gweithlu

 

Fel y nododd y Prif Arolygydd, hwn fydd y trydydd gaeaf lle mae’r sector gofal cymdeithasol wedi bod dan bwysau sylweddol. Mae'r gweithlu’n flinedig iawn ac wedi’i ddisbyddu, ac mae'r staff presennol yn gweithio sifftiau hirach a mwy o oriau (oherwydd prinderau staff) - nid yw hynny’n

gynaliadwy. Mae cryn bryder, felly, ynghylch gwytnwch y gweithlu.

 

Mae’r angen am gydraddoldeb rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol a'u cymheiriaid yn y GIG, o ran cyflog a thelerau ac amodau, wedi bod yn broblem ers amser maith, ac mae pwyllgorau olynol yn y Senedd wedi bod yn galw amdano. Y gobaith oedd y byddai'r sylw a roddwyd i ofal cymdeithasol drwy'r pandemig yn helpu i godi proffil gofal cymdeithasol, a byddai'r angen i fynd i'r afael â rhai o'r materion sydd wedi bod yn endemig ers blynyddoedd lawer yn cael ei ddatrys. Felly, roedd yn siomedig clywed gan y Prif Arolygydd ei bod yn ymddangos bod y proffil uwch wedi bod yn

fyrhoedlog i ofal cymdeithasol.

 

Mae canfyddiad o hyd bod gwaith gofal cymdeithasol yn weithlu cyflog isel a sgiliau lefel isel. Os ydym am ddatblygu’r gweithlu, mae parch cydradd a chydraddoldeb o ran telerau ac amodau yn hanfodol er mwyn chwalu’r myth hwn a recriwtio a chadw niferoedd digonol o staff gofal cymdeithasol. Dywedodd AGC wrthym, os nad eir i’r afael â’r sefyllfa staffio fel mater o frys ar lefel genedlaethol, fe fydd awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol mewn perygl o beidio â

chyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol.

 

Y pwysau ar ofalwyr di-dâl

 

Yn ystod ein hymchwiliad i ryddhau cleifion o'r ysbyty, clywsom bryderon am y pwysau sy'n cael ei roi

ar deuluoedd a gofalwyr di-dâl i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth gofal.

 

Dywedodd y Prif Arolygydd wrthym nid yn unig fod gormod o bobl yn aros am asesiad o'u hanghenion, ond hefyd yn rhy aml nid oes digon o gapasiti yn y system i ddiwallu'r anghenion hynny yn dilyn asesiad. Yn ogystal, nid yw cynlluniau gofal a chymorth pobl yn cael eu hadolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn yn golygu pan fydd anghenion pobl yn newid ac efallai fod angen mwy o ofal arnynt, nid yw hyn yn cael ei ddarparu. Tynnodd sylw

hefyd at y pwysau anghynaladwy sy'n cael ei roi ar ofalwyr di-dâl i lenwi'r bylchau mewn gofal.

 

Rydym hefyd yn rhannu pryderon AGC fod pobl yn dal i gael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartref gofal pan mai eu dewis yw dychwelyd adref ond nid yw hyn yn bosibl gan nad oes pecynnau gofal addas ar gael. Dywedodd y Prif Arolygydd mai hwn yw’r ‘opsiwn lleiaf gwael’. Dywedodd AGC wrthym, lle nad oes dewis arall yn lle cael ei ryddhau o'r ysbyty i gartref gofal, ei bod yn bwysig bod pobl yn cael

y gefnogaeth briodol er mwyn eu galluogi i fod mor annibynnol â phosibl tra’n byw yn y cartref gofal.

 

Mae hyn yn golygu y dylid darparu gwasanaethau ailalluogi 'o fewn cyrraedd' neu gefnogi staff gofal

mewn cartrefi gofal i ddatblygu sgiliau ailalluogi ychwanegol.

 

Nid oes yr un o'r materion hyn yn newydd. Yn wir, gwnaethoch gydnabod llawer ohonynt yn eich ymateb i argymhellion ein hadroddiad ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai. Fodd bynnag, nid ydym wedi cael sicrwydd eto bod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r cyflymder a’r brys sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r materion hyn, a sicrhau newid gwirioneddol yn y sector. Rydym yn nodi bod y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i fod i gyhoeddi diweddariad ar gynnydd erbyn diwedd 2022. Rydym yn disgwyl â diddordeb am yr adroddiad hwn ac yn awyddus i weld camau pellach yn cael eu cymryd i wella tâl ac amodau gwaith y gweithlu gofal cymdeithasol a mynd i’r afael â’r prinderau er mwyn

datgloi ein systemau iechyd a gofal.

 

Yn gywir

 

Russell George AS

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg. We welcome correspondence in Welsh or English.